Prif ffocws y gyfrol yw ymateb i'r Oleuedigaeth, y chwyldro syniadaethol a osododd sail ar gyfer gwerthoedd a gwleidyddiaeth y cyfnod modern ac sy'n sylfaen ddamcaniaethol i'r wladwriaeth Ryddfrydol. Gyda gwerthoedd Rhyddfrydol o dan fygythiad mewn sawl rhan o'r gorllewin - o America Donald Trump i Brydain Dominic Cummings - mae'n bwnc cyfoes a pherthnasol.